Bydd bwydlen dapas Opera Canolbarth Cymru o ddanteithion operatig am ddim yn dychwelyd i Pontio, Bangor ddydd Mercher, Mawrth 13eg am 6.30pm gyda phump o gantorion yn perfformio cerddoriaeth gan hoff gyfansoddwyr y byd opera gan gynnwys Mozart, Bizet a Puccini.
Mae cyngerdd ‘Operatif’ yn codi’r llen ar berfformiad Opera Canolbarth Cymru o Tosca Puccini ddydd Iau, Mawrth 14eg gyda’r soprano Elin Pritchard o Ogledd Cymru yn chwarae rhan y ddifa ar drengi.
Bydd perfformiwr gwadd, y tenor Robyn Lyn Evans, sydd ar daith ar hyn o bryd gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn Roberto Devereux, Donizetti, yn rhan o raglen Operatif nos Fercher, yn ogystal â’r soprano Alys Mererid Roberts, sy’n perfformio ar daith Tosca Opera Canolbarth Cymru fel y Bugail/Bachgen Capel.
Bydd dau ganwr o Fangor yn ymuno â Robyn ac Alys, sef y soprano Organ Prawang a’r bariton Kiefer Jones, yn ogystal â’r fezzo Erin Fflur Williams, sy’n astudio ar hyn o bryd yng Ngholeg Cerdd y Royal Northern. Jonathan Lyness, Cyfarwyddwr Cerdd OCC fydd yn cyfeilio.
Bydd y rhaglen yn cynnwys blas ar Tosca Puccini ym mherfformiad Robyn Lyn Evans o aria Cavaradossi, ‘E lucevan e stelle’ yn ogystal ag ariâu gan Carmen, ‘Summertime’ Gershwin o Porgy and Bess a ‘Fin ch’han dal vino’ o Don Giovanni Mozart.
Ymunwch â ni i fwynhau opera fyw mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar ym Mar Ffynnon, Pontio o 6.30pm ddydd Mercher, Mawrth 13eg ac yna am 7.70pm ddydd Iau, Mawrth 14eg ar gyfer Tosca yn Theatr Bryn Terfel.
Blas ar opera am ddim!