Yn yr un modd ag y mae campwaith telynegol Tchaikovsky Eugene Onegin (Taith OCC yn dechrau mis Chwefror) yn cyferbynnu bywyd dau ŵr – yr aristocrat balch Onegin a’r bardd Lensky – mae’n portreadu dwy brif gymeriad ganolog gyferbyniol hefyd, Tatyana ac Olga.
Cewch mwy o wybodaeth am ein prif-gymeriadau Onegin & Lensky a Tatyana
Disgrifia Pushkin Tatyana fel “ddim yn hardd fel ei chwaer, tra bo Olga, y chwaer ieuengach, yn ddelfryd ramantaidd o wreictod”:
“Her eyes were of cerulean blue,
Her locks were of a golden hue,
Her movements, voice and figure slight”
Wrth i’r opera agor, mae Olga eisoes mewn cariad â Lensky sy’n cyflwyno ei ffrind Onegin i Tatyana ar ymweliad i gartref teuluol y chwiorydd Larina. Mae Olga’n gymeriad llawer mwy chwareus, heb dueddiadau llyfrgar na mewnddrychedd Tatyana. Fodd bynnag mae ei natur lawen ond difeddwl yn gatalydd ar gyfer trasiedi pan fo fflyrtian Onegin mewn parti yn arwain at ei ornest gyda Lensky – gan adael Olga’n ddifrodedig yn sgil colli ei chariad.
Mae Ailsa Mainwaring sy’n chwarae rhan Olga yn ein cynhyrchiad yn edrych ymlaen at chwarae’r rhan mezzo hudol.
Dywedodd Ailsa:
“Mae Olga’n gymeriad gwych i’w chwarae – mae hi’n cyflwyno ei hun yn ysgafnfryd, yn wrthlen i Tatyana mewn nifer o ffyrdd, ond rydw i’n meddwl ei fod yn mynd yn ddyfnach na hynny. Mae hi’n dysgu dod o hyd i’w ffordd mewn cymdeithas sy’n gosod disgwyliadau mawr ar fenywod (on’d ydyn ni i gyd!) ac wrth gwrs, weithiau mae hi’n gwneud camgymeriadau – rhai mawr – ond mae hi’n ceisio dysgu sut i fod yn fenyw, dydi hi byth yn golygu unrhyw ddrwg gyda’i gweithredoedd.”
Mae aria Olga, a genir yn brydferth yma gan Mamsirova Margarita yn y Grand Opera ym Mharis, gydag is-deitlau Ffrengig ond gyda chyfieithiad Saesneg isod, yn un o’r rhai mwyaf swynol yn yr opera ac mae’n rhoi goleuni gwirioneddol ar ei chymeriad a’i safle.
Gwrandewch ar aria Olga – cenir mewn Rwseg isod
Cenir ein cynhyrchiad newydd o Eugene Onegin mewn Saesneg
Ah, Tanya, Tanya!
You’re always dreaming!
But I am quite unlike you,
I feel merry when I hear singing.
dawnsio ychydig gamau
‘Across the bridge, the little bridge,
along the hazel planks …’
I was not made for melancholy singing,
I do not like to dream in silence,
nor, on the balcony in the dark night,
to sigh, to sigh,
to sigh from the depths of my soul.
Why should I sigh, when full of happiness,
my youthful days flow gently by?
I am carefree and full of fun,
and everyone calls me a child!
For me life will always, always be sweet,
and I shall retain, as I always have,
light-hearted confidence,
be playful, carefree, merry!
Ychwanegodd Ailsa “Rydw i wrth fy modd bod Tchaikovsky wedi ysgrifennu Olga ar gyfer llais mezzo soprano gwirioneddol, ond mae’r gerddoriaeth mor ifanc a disglair, byth yn cael ei phwyso i lawr. Mae hynny’n beth prin.”
“Yr hyn sy’n wych am Onegin yw ei bod yn ffenestr i wahanol gymdeithas, wedi ei pheintio mor fyw drwy ymddygiad pobl, eu hiaith, ac wrth gwrs y gerddoriaeth odidog. Mae’r cyfan mor gynnil nes bod y cymeriadau’n cael eu cyflwyno i ni fel bodau dynol byw, sy’n gwneud i’r ddrama olygu mwy byth.”
Mae’r darn yn llawn atgofion melys i Ailsa : “Onegin oedd y darn cyntaf a weithiais arno yn Garsington Opera, yn canu rhan y Nyrs mewn perfformiad ysgol lle cafodd yr holl ddirprwy gantorion gymryd rhan, felly mae’n eithaf arbennig i mi.”
Bydd teithio ledled Cymru hefyd yn dod ag atgofion melys – yn enwedig ymweld ag Aberdaugleddau, dywedodd:
“Fy mhrofiad cyntaf o Sir Benfro oedd codi pabell i chwech yn llwyddiannus mewn gwynt cryf ar ben clogwyn. Fe wnaethom ni lwyddo i aros yno am dair noson cyn ffoi i westy moethus.”
Mae’r ymarferion yn cychwyn yn Llundain ar ddiwedd y mis, ac yn symud i’r Drenewydd yn gynnar ym mis Chwefror. Allwn ni ddim aros i ymgolli ym myd rhyfeddol Eugene Onegin.
Tocynnau ar werth yn barod – dyddiadau a manylion yma.