Wrth i ni ffarwelio â 2017, beth am daro golwg yn ôl ar rai o uchafbwyntiau blwyddyn ryfeddol yn hanes Opera Canolbarth Cymru.
Yn y 12 mis diwethaf rydym wedi cyflwyno 29 o sioeau gan gyrraedd at gynulleidfa gyfunol o 3824.
Cychwynnodd 2017 gyda chynhyrchiad pefriol a hudol o Semele Handel – gan gyferbynnu cerddorion Baróc coeth yr Academi Cerddoriaeth Hynafol a cherddorion cyfnod o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, gyda gweledigaeth y Cyfarwyddwr Martin Constantine o’r darn mewn byd sydd ag obsesiwn â hun-luniau a hunanddelwedd.
Gwelwyd yr wyth perfformiad gan gynulleidfaoedd o 1374, gan ddod ag OCC yn ôl gyda chlec ar ôl cyfnod o fyfyrdod distawach. Fe’i disgrifiwyd gan Stephanie Power yn ei hadolygiad pedair seren yn The Independent fel “hanes bywiocaol rhybuddiol – hynod a smala ar brydiau – ar gyfer oes y cyfryngau cymdeithasol.”
Myfyrwyr oedd y cantorion ar y llwyfan, llawer ohonynt ar daith am y tro cyntaf, yn disgleirio drwy’r sioe gyda ffresni ac egni oedd yn dod â dehongliad newydd i ddarn nodedig a dadleuol Handel.
Llai na mis ar ôl i Semele agor, gwelwyd sioe gyntaf y Tîm Artistig newydd, Richard Studer a Jonathan Lyness, gydag Opera Canolbarth Cyntaf sef fersiwn newydd o Ffliwt Hud Mozart.
Er mwyn osgoi brolio, fe wnawn ni adael y ganmoliaeth i’n cast gwych i Glyn Pursglove, a fu’n adolygu ar gyfer Seen and Heard International:
“Roedd nifer o berfformiadau rhagorol, gan gynnwys Pamina Galina Averina, yr oedd harddwch ei thôn yr un mor gryf â’i mynegiant a’i chywirdeb cyson ac awdurdod hynod drawiadol Sarastro Sion Goronwy, a oedd yn tra-arglwyddiaethu’n gorfforol ac yn lleisiol ond yn llwyddo i gyfleu dynoliaeth ddarbwyllol yn y golygfeydd olaf.
Yn agos atynt ‘roedd tenor telynegol deniadol Tamino William Wallace a ffwlbri naturiol a choeth Papageno Frederick Long, rhan yr un mor bwysig yma â’r ynfydion yn Shakespeare, cadarnhad o werth dynoliaeth gyffredin yn yr un modd ag y mae agweddau eraill o’r gwaith yn moli idealaeth. Mwynheais yn enwedig y ffordd yr oedd Long (gyda chymorth y cyfarwyddwr) yn llwyddo i fod yn deimladwy ac yn absẃrd ar yr un pryd yn ystod ei ymgais i ladd ei hun.”
Nid oedd pum sioe yn teimlo’n ddigon ac er ein bod yn falch bod cynulleidfa o 1251 o bobl wedi gweld y sioe, roedd yn anodd ffarwelio â’r cynhyrchiad swrrealaidd hwn a oedd yn talu gwrogaeth deilwng i orchest Mozart. Fel y disgrifiodd Richard Bratby‘r noson agoriadol yn The Spectator:
“Roedd y theatr yn llawn, y chwerthin yn fynych ac ar y foment dra-rhagorol honno pan fo Pamina’n camu ‘mlaen i rannu dioddefaint Tamino a sgôr Mozart yn gorlifo ag urddas a thrugaredd, roedd yn anodd dal y dagrau’n ôl.”
Yn olaf, ond nid yn llai pwysig o’r tair taith eleni, y daeth ein cynhyrchiad Llwyfannau Bach cyntaf erioed gyda The Bear Walton – ffordd newydd sbon o weithio i ni a dull ffres o deithio; cyfle i berfformio opera wedi ei llwyfannu’n llawn mewn lleoliadau megis neuaddau pentref ac eglwysi.
Mae taith The Bear wedi bod yn agoriad llygad i bawb ohonom. Rydym wedi cael croeso cynnes mewn ardaloedd o Gricieth i Gwmbrân a pherfformio i 1199 o bobl mewn 16 lleoliad.
Arbrawf oedd sioeau Llwyfannau Bach eleni – ac rydym ni wedi dysgu llawer! Fe fyddwn ni’n bendant yn ôl eto yn yr hydref!
Mae 2018 yn argoeli i fod yn flwyddyn arall o wynebau ffres a deunydd newydd gyda 25 o sioeau dros y flwyddyn! Ym mis Chwefror byddwn yn agor cynhyrchiad cyntaf OCC o gampwaith telynegol Tchaikovsky, Eugene Onegin, ein perfformiad cyntaf hefyd mewn partneriaeth ag Ensemble Cymru. Byddwn yn cychwyn y daith yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar y 24ain o Chwefror a mynd ymlaen i roi wyth perfformiad arall ledled Cymru, gan gorffen yn Henffordd ar Ebrill y 10fed.
Y bariton carismataidd George von Bergen sy’n perfformio rhan y teitl, a’r seren ar ei chynnydd Elizabeth Karani yw Tatyana, yn arwain cast sydd unwaith eto yn gyfuniad o gantorion mwy profiadol ac artistiaid ifanc sy’n canu’r rhannau am y tro cyntaf. Allwn ni ddim aros i gychwyn ar yr ymarferion yn y Flwyddyn Newydd.
Yn hydref 2018 bydd yn bleser bod yn ôl gydag ail daith Llwyfannau Bach, gan ddychwelyd i rai o’r lleoliadau oedd mor ddifyr yn 2017 yn ogystal â rhai lleoliadau newydd. Y tro hwn byddwn yn teithio gyda L’heure Espagnole Ravel.
Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf yn L’Opera Comique Paris yn 1911. Gosodir L’heure Espagnole mewn siop glociau yn Toledo, mae’n dilyn helynt Torqeumada, y gwneuthurwr clociau diwyd, a chasgliad ei wraig gyndyn o garwriaethau anghyfreithlon. Caiff themâu daearol Ravel eu hadlewyrchu yn iaith y libreto (a gennir yn y Saesneg) a’r dawnsiau habanera bywiog yn ogystal ag elfennau eraill a fenthycwyd o draddodiad gwerin Sbaen.
Opera i’r bobl oedd hon, ac mae’n berffaith er mwyn dod â thamaid o gynhesrwydd a sbeis Sbaeneg i nosweithiau hydrefol Cymru. Mae ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness wrthi’n brysur yn barod yn creu trefniant newydd o’r darn ar gyfer pump o gantorion a phedwar cerddor.
Diolch i bawb sydd wedi gweld ein gwaith, helpu i godi ymwybyddiaeth, rhoi lle i’r cantorion aros a rhannu ein siwrnai yn 2017. Ymlaen i 2018!