Wrth i ni roi min ar ein pensiliau a sglein ar ein ‘sgidiau’n barod i fynd yn ôl i weithio ar dymor yr hydref, mae’n bleser gan Gyfarwyddwr Gweithredol OCC Lydia Bassett ddatgelu tymor “Cynnau Cariad” – wedi ei gynllunio i feithrin cariad at opera ar draws Cymru a’r Gororau.
Mae’n teimlo fel oes ers inni orffen taith Eugene Onegin yn y Gwanwyn – pwy fyddai wedi dyfalu y byddem ni, ar ôl cynhyrchiad eirllyd y Gwanwyn ar thema Rwsia, yn cael un o’r hafau poethaf erioed?
Ar ôl haf o gyngherddau gala mewn gerddi godidog mae’n teimlo’n dda cael paratoi ar gyfer teithio eto yn yr hydref. Rydym ni’n edrych ymlaen yn arw at ddatgelu ein hail dymor ar thema – tymor Cynnau Cariad, a fydd yn teithio i 16 o leoliadau LlwyfannauLlai ar draws Cymru a’r Gororau yn y Gwanwyn eleni ac yna i naw o theatrau prif lwyfan yng ngwanwyn 2019
Cynhyrchiad LlwyfannauLlai eleni yw A Spanish Hour –L’heure espagnole gan Ravel. Comedi siop gloc (rhaid ynganu’n ofalus), llawn cymeriadau dynol bywiog sy’n cyfuno momentau digrif o ffârs lofftydd gydag alawon bachog a habaneras syfrdanol sy’n sicr o roi blas ar gyda’r nosiau hydrefol.
Ein cynhyrchiad ar gyfer y prif lwyfan yng ngwanwyn 2019 yw campwaith anhygoel Puccini, Tosca. Mae’n rhaid imi gyfaddef, dwi’n hoff o ‘chydig o ddrama, ac mae Tosca yn ffefryn personol, o’r cordiau agoriadol dramatig i’r drasiedi chwerw ar y diwedd. Mae’n waith athrylith pur ac alla i ddim aros i weld ein cynhyrchiad newydd yn y gwanwyn.
LlwyfannauLlai – A Spanish Hour, L’heure espagnole Ravel
Dyma ein hail gynhyrchiad LlwyfannauLlai, ar ôl The Bear William Walton yn yr hydref y llynedd. Cawsom i gyd flas ar y daith honno ac allwn ni ddim aros i gychwyn arni eto.
Nod y teithiau hyn yw mynd â fersiynau newydd o opera fyw a lwyfannir yn llawn i fannau nad oes modd gweld y fath beth fel arfer, a chynnau brwdfrydedd tuag at opera ym mhob lleoliad! O’r rhai sydd wedi gweld cannoedd o operâu i’r rhai nad ydynt wedi mentro erioed, bydd taith LlwyfannauLlai yn cynnig profiad cartrefol ac unigryw o opera, wedi ei pherfformio gan gerddorion a chantorion rhagorol, a’i llwyfannu’n hyblyg er mwyn inni allu teithio i gymysgedd o theatrau bychan, neuaddau pentref ac eglwysi hyd yn oed.
Mae L’heure espagnole yn opera un act berffaith ar gyfer y math hwn o deithio. Hon oedd opera gyntaf Ravel ac fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf ym Mharis yn 1911. Fe’i lleolir mewn siop glociau yn Toledo, canolbarth Sbaen a dilynir ffawd Torquemada, y clociwr diwyd, wrth i’w wraig ifanc Concepción, un prynhawn poeth, weithio ei ffordd drwy ei chasgliad o garwyr ffôl – gan eu cuddio yng nghistiau’r clociau wrth iddi symud o un dyn i’r llall.
Mae hon yn opera i bawb, yn llawn hwyl, yn cael ei chanu yn Saesneg yn fyw ac yn lleol ledled Cymru a’r Gororau. Byddwn yn cychwyn ar ein taith yn agos at adref, yn Theatr Llwyn yn Llanfyllin mewn partneriaeth â’n cartref, Theatr Hafren yn y Drenewydd. Yna byddwn yn codi pac ar hyd a lled y wlad o Abergwaun i Fae Colwyn – yn ogystal â mentro i ambell leoliad dros y ffin yn Llwydlo a Bishop’s Castle.
Byddwn yn dychwelyd i rai o’r theatrau oedd fel “perlau cudd” pan aeth The Bear ar daith yn yr hydref y llynedd – megis Theatr-y-Ddraig yn Abermo a Neuadd Dyfi yn Aberdyfi. Byddwn hefyd yn dychwelyd i rai o leoliadau prif lwyfan blaenorol – Canolfan Celfyddydau Pontardawe lle perfformiwyd The Magic Flute a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Caerdydd a Theatr Colwyn lle perfformiwyd Semele yng ngwanwyn 2017.
Cawn ymgynefino â lleoliadau newydd hefyd – SpArC yn Bishop’s Castle gyda’r Shropshire Music Trust a byddwn yn mynd â’r opera fyw gyntaf erioed i’r Met yn Abertyleri! Mae ein mapiau’n barod ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod cynulleidfaoedd newydd yn ogystal â gweld wynebau cyfarwydd.
Mae ein cynhyrchiad yn cynnwys cast rhagorol o bum canwr a phedwar cerddor ardderchog, yn perfformio cyfieithiad Saesneg newydd gan ein Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer a threfniant newydd o sgôr Ravel a grëwyd gan ein Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness.
I gael mwy o wybodaeth, rhowch gip ar y cyflwyniad gwych hwn i L’heure espagnole gan Timothy Burke ar ran Opera Deithiol Lloegr:-
I gael mwy o wybodaeth a thocynnau ewch ein tudalen
‘Beth sydd ymlaen‘
Tosca
Mae Tosca yn enw mwy cyfarwydd i bawb – yn wir, fe’i dewiswyd gan gynulleidfa Radio 3 fel eu hoff opera mewn pleidlais y llynedd, a hynny o flaen Mozart, Wagner a Gounod. Mae Tosca yn opera sy’n cynnwys y cyfan, mae’n llawn angerdd a drama yn ogystal â cherddoriaeth syfrdanol o hardd. Paratowch i gael eich gwefreiddio!
Felly :-
- Arwres hardd ond amherffaith (oes)
- Cariad ffyddlon ac angerddol (oes)
- A dihiryn enllibus (oes wir!)
y cyfan wedi ei osod ar gefndir cythryblus anghydfod a thensiwn gwleidyddol cyn cwymp Rhufain i luoedd goresgynnol Napoleon.
I’r rhai sy’n anghyfarwydd â’r clasur, mae Floria Tosca yn ddifa heb ei hail, sy’n ffyddlon i’w hartist o gariad Mario Cavaradossi, ond mae prif swyddog yr heddlu cudd ar ei hôl, sef yr anfad Baron Scarpia. Mae ein harwres dalog yn barod i ildio popeth er mwyn arbed ei chariad – ond mae’n benderfynol o ymladd bob cam o’r ffordd.
Ystrydeb neu beidio, mae Tosca fel reid colli cylla’ emosiynol, yn llawn pŵer ac angerdd ac alawon anhygoel y byddwch yn eu hadnabod eisoes o’r epig “Va Tosca” a genir gan Scarpia – “Tosca, you make me forget my God” – i erfyniad anobeithiol ac emosiynol Tosca “Vissi d’arte” – Celf oedd fy mywyd.
Ymuna’r arbenigwyr cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, â’n taith unwaith eto, i berfformio offeryniaeth ostyngedig ein Cyfarwyddwr Cerdd, Jonathan Lyness, o sgôr Puccini. Rydym yn dychwelyd i’r naw theatr lle perfformiwyd Eugene Onegin yn y Gwanwyn, felly byddwn yn ôl yn Aberystwyth, y Drenewydd, Casnewydd, Henffordd, Aberhonddu, Bangor, Aberdaugleddau a Llanelli.
Bydd tymor Cynnau Cariad yn antur a hanner – allwn ni ddim aros i’w rannu gyda chi! Hwyl am y tro.