yw

Braslun gwisg Concepcion – Richard Studer, Cynllunydd

Mae’r awr Sbaenaidd bron ar ddod, yr awr yn yr wythnos pan fydd Concepcion yn croesawu ei chariadon… a gan fod llai na mis nes y bydd LlwyfannauLlai OCC yn teithio eto gyda ffars ystafell wely fywiog Ravel, L’heure espagnole, mae’n hen bryd i ni gyflwyno ein cast a rhannu rhywfaint o’r hanes!

Lleolir y stori mewn siop glociau yn Toledo, Sbaen, lle cawn gyfarfod Concepcion, sy’n cael ei pherfformio i ni gan y Mezzo Sgotaidd Catherine Backhouse, y bydd rhai ohonoch yn ei chofio o’r Ffliwt Hud.

Concepcion yw gwraig ifanc benderfynol Torquemada, y clociwr (Peter Van Hulle) – ac fel y disgrifia Catherine: “Mae hi’n haerllug, yn danllyd, yn ffraeth ac yn wych!” ac yn benderfynol o fanteisio ar y cyfle tra bod ei gŵr i ffwrdd i ddiddanu ei mintai o gariadon.

Catherine Backhouse – Concepcion

Peter Van Hulle -Torquemada

Nicholas Morton – Ramiro

 

Anthony Flaum – Gonzalve

 

Matthew Buswell – Don Inigo Gomez

Y cyntaf i ymddangos yw Ramiro – gyrrwr mulod, y bariton Nicholas Morton, a berfformiodd gyda ni hefyd yn Eugene Onegin y llynedd. Mae Ramiro yn “ddyn mawr cryf” clasurol – felly pan fo Concepcion yn ysmicio ac yn gofyn iddo gario cloc i’w hystafell, mae’n ei godi heb oedi ac yn mynd i fyny’r grisiau – nid tasg hawdd ac fel y dywedodd Nicholas “Rwy’n mynd i orfod treulio dipyn go lew o amser yn y gampfa er mwyn edrych yn addas ar gyfer y rhan, sy’n rhywbeth newydd i mi.

Y bardd Gonzalve sydd nesaf, yn awyddus i geisio cariad Concepcion gyda’i benillion aruchel. Perfformir rhan Gonzalve gan Anthony Flaum, sy’n newydd i Opera Canolbarth Cymru.

All Anthony ddim aros i ymuno â ni ar ein taith er mwyn gweld mwy ar Gymru ac meddai: “Yn ddigon diddorol, dim ond un o leoliadau’r daith yr ydw i wedi bod ynddo o’r blaen (Caerdydd). Felly fe fydd hon yn daith sy’n llawn o brofiadau newydd i mi. Hwn yw’r tro cyntaf imi chwarae’r rhan yma a gweithio gyda’r cwmni ac fe fydd yn llawn o leoliadau hardd felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y daith.

Y cariad olaf i gyrraedd yw’r bancwr Don Inigo Gomez, a berfformir gan Matthew Buswell, un o ffefrynnau OCC sydd wedi teithio gyda ni yn ein tri chynhyrchiad diwethaf – ond erioed mewn siwt dew cyn hyn!

Heb ollwng y gath o’r cwd – does dim lle i guddio ar wahân i gistiau’r clociau sy’n llenwi’r siop, felly mae gan Ramiro ddigon o waith i’w wneud yn cario’r cariadon yng nghistiau’r clociau i fyny ac i lawr o ystafell wely Concepcion er mwyn eu cadw oddi wrth ei gilydd ac oddi wrth ei gŵr.

Mae’n ddarn difyr – gyda momentau llawn hiwmor a blas Sbaenaidd cryf – ac mae ein cantorion yn ysu am gael dechrau arni. Dywedodd Catherine Backhouse: “Rydw i wrth fy modd gyda cherddoriaeth Ravel, mae ynddi elfennau o ddawns Sbaenaidd, harmoni jasaidd a digon o bersonoliaeth, yn enwedig ar gyfer Concepcion.”

Ychwanegodd Nicholas Morton: “Rydw i wrth fy modd gyda’r darn yma, mae wedi ei ysgrifennu’n wych. Mae’r rhan ei hun yn ddifyr iawn, o ran y gerddoriaeth ac o ran y cymeriad

Gyda 16 o berfformiadau ledled Cymru a’r Gororau, y rhan fwyaf ohonynt mewn lleoliadau na welir operâu ynddynt fel arfer, mae taith LlwyfannauLlai yn cynnig profiad unigryw o opera mewn mannau clyd heb ffurfioldeb theatr neu dŷ opera mawr.

I’r cantorion hefyd, mae’n brofiad gwahanol o berfformio. Fel y dywedodd Nick Morton: “Rydw i wrth fy modd gyda’r awyrgylch glos, yn enwedig gyda sioe fel hon sydd mor ddigrif. Y lleiaf yw’r lle, y mwyaf o gynildeb y gellir ei gynnwys yn y sioe, sydd yn ei gwneud yn fwy dengar i gynulleidfaoedd newydd.

Mae A Spanish Hour – L’heure espagnole Ravel – yn agor yn Theatr Llwyn yn Llanfyllin, Powys ddydd Iau y 9fed o Dachwedd! Lle byddwch chi’n ei gweld?


Adolygiadau

Dyma rywfaint o adolygiadau a chanmoliaeth i’n cast nodedig.

Anthony Flaum

Grange Park Opera – Romeo et Juliette

Roedd Tybalt nerthol, peryglus Anthony Flaum yn rhagorol” – Opera magazine, Peter Reed

Mae perfformiadau cywrain yn y rhannau llai – Tybalt wedi ei gymeriadu’n beryglus gan yr anhygoel Anthony Flaum” – Classicalsource

Tabalt disglair, llidiog Anthony Flaum” – The Telegraph, Rupert Christiansen

Catherine Backhouse

Mae’r Mezzo Albanaidd Ifanc Catherine Backhouse yn sefyll allan fel Annina  fonheddig, gyfoethog ei llais” – The Guardian, Rowena Smith

Mae gan Backhouse yn enwedig bresenoldeb disglair ar y llwyfan a soniaredd mezzo cyfoethog.” – The Times, Richard Morrison

Nicholas Morton

Daw Nicholas Morton…â chyseinedd a dur i’w ddehongliad o’r llanc” – The Stage, Aug 2018, Yehuda Shapiro

Mae ei Fariton yn gastio moethus ynddo’i hun” – Classical Source, Peter Reed

Peter Van Hulle

English National Opera – Otello

Drwy’r holl atyniadau penigamp eraill — Cassio huawdl Allan Clayton, y corws egnïol, Roderigo dandïaidd Peter Van Hulle, Emilia broto-ffeministaidd Pamela Helen Stephen — Mae gwychder cerddorfaol Verdi yn pefrio o hyd.” – The Telegraph

Related Posts

Gadewch Sylw

Mae’r wefan yn defnyddio Akismet i leihau sbam. Mwy o wybodaeth.

Cadw Opera Canolbarth Cymru ar daith

Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf… darllenwch mwy …or…

You have Successfully Subscribed!