Cafodd dros 50 o blant ysgol gynradd Trefaldwyn eu troi yn ddreigiau, corachod, uncyrn a dewiniaid yr wythnos yma fel rhan o wythnos breswyl Opera Canolbarth Cymru yn Ysgol Eglwys yng Nghymru Trefaldwyn.
Ymunodd y gantores broffesiynol Maria Jagusz â Chyfarwyddwyr Artistig y cwmni, Richard Studer a Jonathan Lyness, i weithio gyda 57 o blant 7-11 oed i greu opera newydd sbon, gan gychwyn gyda’r chwedl Gymreig am ddreigiau cudd yn cysgu o dan Ddinas Emrys.
Ysgrifennodd y plant ganeuon, creu cymeriadau a straeon ac ysgrifennu eu sgriptiau a’u cerddoriaeth eu hunain i’w perfformio i rieni a ffrindiau ysgol.
Eglurodd Ms Anna Griggs, prifathrawes yr ysgol:
“Mae’r profiad wedi bod yn un ysbrydoledig ac mae lefel yr egni’n rhagorol. Mae’n wych gweld y Cyfarwyddwyr Artistig a’r disgyblion yn cydweithio.
“Mae’r plant i gyd wedi cael cyfle i gymryd rhan ac maen nhw’n ymfalchïo’n arw yn eu gwaith ac yn teimlo perchnogaeth dros yr hyn y maen nhw wedi ei greu. Roedd y plant yn llawn cyffro ynglŷn â gwaith y llynedd felly roeddem ni’n gwybod y bydden nhw’n frwd o’r cychwyn, ac o safbwynt yr ysgol, mae’r rhaglen yn cynnwys rhywbeth ar gyfer bob rhan o’r cwricwlwm, nid yr elfen greadigol yn unig ond llythrennedd; ysgrifennu sgriptiau a straeon.”
Ariennir yr wythnos breswyl gan raglen Cydweithio Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru ac roedd yn gyfrifol am gwricwlwm cyfan yr ysgol gynradd am wythnos lawn, gan orffen gyda pherfformiad ar y prynhawn Gwener.
Eglurodd Lydia Bassett, Cyfarwyddwr Gweithredol Opera Canolbarth Cymru:
“Hon yw ein hail wythnos breswyl yn ysgol Trefaldwyn ac roedd y plant ar ben eu digon fod y cwmni’n dod yn ôl.
“Rydym ni’n gweithio mewn ffordd sy’n cael ei harwain gan y disgyblion yn llwyr felly mae’r sgript gyfan a’r caneuon i gyd yn cael eu creu gyda’n gilydd yn ystod yr wythnos – dydyn ni byth yn gwybod beth i’w ddisgwyl felly eleni mae gennym ni uncyrn anweledig, wyth corrach, hobitiaid a dreigiau.
“Mae’n wych gweithio gyda phlant gan nad oes cyfyngiad ar eu dychymyg – ac am ein bod ni wedi gweithio yn ysgol Trefaldwyn o’r blaen, ‘dydy’r plant ddim yn teimlo bod opera’n rhywbeth od na gwahanol. Mae opera’n golygu cael hwyl gyda cherddoriaeth a geiriau a chreu perfformiad gwych y gall pawb ei fwynhau – a dyna’n union yw opera i fod”.
Daw cynhyrchiad y plant â chwedlau Cymreig a chymeriadau cartŵn at ei gilydd a chyfuniad o gerddoriaeth wreiddiol y maent wedi ei hysgrifennu ar gyfer y sioe a chlasuron theatr gerdd yn amrywio o Into the Woods a The Sound of Music i Candide Bernstein.