Yn ail ran ein trafodaeth gyda chyfarwyddwr creadigol OCC Richard Studer, mae’n amlinellu ei ddehongliad o gymeriad Onegin a’r ffordd y mae’n edrych ar y cynhyrchiad hwn o Eugene Onegin Tchaikovsky i OCC, sydd ar daith o fis Chwefror 2018. Os na welsoch Rhan 1, fe’i gwelwch yma.
Un o elfennau allweddol y darn hwn yw rhan y teitl, Eugene Onegin – yn eich cynhyrchiad, ydi’r cymeriad yn ddyn drwg ynteu’n arwr pechadurus? Sut byddwch chi’n gwneud y penderfyniadau hynny?
Fe wnawn ni setlo hyn yn syth – dydy Onegin ddim yn arwr – fe fyddai angen sbectol go arbennig i weld hynny. Mae’n wir fod Tatyana’n ei ramanteiddio yn eu cyfarfod cychwynnol, yn cael ei swyno gan y gŵr ifanc hardd, trahaus hwn sy’n rhoi sylw iddi er mwyn lliniaru ei ddiflastod ei hun, ond ni ddylem ni fel cynulleidfa syrthio i’r un trap.
Nid yw ei weithredoedd yn rai arwrol, dim o gwbl. Does dim cwestiwn fod gan y gŵr swyn y gellir ei ddisgrifio’n ‘arwrol’ ei raddfa ond onid ydy hynny’r un mor wir am Heathcliff? Ydy o’n arwr? Eto, na, nid yn synnwyr sylfaenol y gair beth bynnag. Mae Onegin yn gynnyrch ei fagwraeth, ei fraint a’i bersonoliaeth. Trasiedi’r darn yw nad yw’n sylweddoli hynny. Yn hytrach na thyfu fel unigolyn, mae’r diffygion yn ei bersonoliaeth yn mewnblannu eu hunain yn ddyfnach i’w enaid. Mae tuedd narsisaidd yn Onegin sy’n golygu nad oes ganddo’r gallu i ymateb i sefyllfaoedd mewn modd rhesymegol ac aeddfed. Gellid dadansoddi ei floedd o anobaith ar ôl iddo gael ei wrthod gan Tatyana fel bloedd o hunan-dosturi llawn cymaint.
George von Bergen sy’n chwarae rhan Onegin yng nghynhyrchiad OCC
Er mai hwn yw’r tro cyntaf i OCC gynhyrchu Eugene Onegin, mae’n ddarn yr ydych wedi ei gyfarwyddo o’r blaen (gyda chanmoliaeth fawr). Allwch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch yn mynd i’r afael â phob cynhyrchiad newydd gyda llygaid ffres a rhywfaint ynglŷn â’ch proses greadigol fel Cyfarwyddwr?
Fe fydda i bob amser yn troi at y sgôr yn gyntaf. Gyda darn yr ydw i wedi ei gyfarwyddo sawl tro, gall y sgôr ddal i ddatgelu rhywbeth newydd ac ystyron sy’n dod i’r amlwg wrth edrych arno eto. Gall fod angen imi dreulio llai o amser gyda’r sgôr o’m blaen er mwyn paratoi cynhyrchiad newydd ond bydd yn dal I reoli bob penderfyniad. Fe wnes i ddioddef cynhyrchiad eithaf sarrug o ‘Die Zauberflote’ unwaith lle’r oedd y cyfarwyddwr yn ddigon trahaus i gyhoeddi mae ei fersiwn ef oedd y cynhyrchiad gorau o’r opera a welodd erioed. Pe byddai hynny’n wir (nid felly yr oedd hi yn amlwg) yna sut y gallai barhau i gyfarwyddo gwaith o’r fath os nad oedd ganddo un dim arall i’w ychwanegu?
Mae mynd yn ôl at opera yn debyg i gyfarfod hen ffrind nad ydych wedi ei weld ers blynyddoedd a theimlo bod eich perthynas wedi ei chadarnhau – mae gymaint i’w ddweud wrth eich gilydd!
Hyd yn oed os mai adfywiad yw cynhyrchiad, mae llawer mwy i’w ddarganfod o hyd ac mae hyn yn rhoi cyfle i fynd â chynhyrchiad yn ôl i’r ymarferion a’i fireinio, ar ôl profiad y cynhyrchiad gwreiddiol. Yn wahanol i sioeau cerdd, nid oes cyfle i gyflwyno opera ymlaen llaw cyn i ni ryddhau’r gwaith i’r wasg a’r cyhoedd – mae adfywiad yn gyfle i fireinio cynhyrchiad a rhoi bywyd newydd iddo.
Mae artistiaid ifanc yn y cynhyrchiad hwn, gan gynnwys rhannau canolog Tatyana ac Olga. Beth sy’n eich cyffroi chi ynglŷn â gweithio gydag artistiaid ifanc mewn prif rannau a pham fod hynny’n bwysig i chi?
Mae gweithio gydag unrhyw ganwr mewn unrhyw ran yn bleser bob amser – boed y canwr wedi perfformio’r rhan mewn cynyrchiadau eraill neu’n newydd i’r rhan. Mae’r broses o ymarfer yn brofiad cyfunol ac mewn cast delfrydol, byddai cyfuniad o artistiaid mwy sefydledig i ddod â’u profiad i’r ymarferion ac artistiaid ifanc sy’n dod at y rhannau am y tro cyntaf ac sy’n gweld y cymeriad drwy lygaid ffres. Gall y ddau ddysgu gan ei gilydd, ac mae Jon a minnau’n dysgu gan bob un ohonynt! Mae’n hollol gywir y dylai fod gan gwmni o faint OCC bolisi o gastio artistiaid newydd ar gychwyn eu gyrfaoedd a rhoi’r cyfle iddynt ddysgu a pherfformio rhannau o bob math, Tatyana neu’r Gwerinwr Cyntaf!
Rydym ni’n gweld llawer o ganwyr ifanc yn dod o’r colegau bob blwyddyn ac mae arnynt angen cyfleoedd i weithio a theithio mewn amgylchedd proffesiynol. Fydd pob un ohonyn nhw ddim yn llwyddo i gael gyrfa lawn fel prif artist ac mae rhai’n newid cyfeiriad dros amser, ond hyd yn oed i’r canwr a sy’n penderfynu derbyn gwaith corws llawn amser neu fynd i ddysgu, bydd y profiad o weithio mewn cynyrchiadau fel hyn yn ddylanwad ar weddill eu bywydau gwaith ac yn rhoi’r hyder iddynt gyrraedd eu nod, boed hynny’n golygu mynd am gontract corws gydag Opera Cenedlaethol Cymru neu fod yn gyfarwyddwr cerdd i gynhyrchiad ysgol. I’r artisitiaid hynny sy’n mynd ymlaen i’r tai opera cenedlaethol a rhyngwladol (ac mae gan Jon a minnau record wych o’u hadnabod!) mae cyfle i berfformio rhan (o dechneg eu clyweliad ymlaen) yn cynyddu eu gallu a’u hyder yn eu celfyddyd wrth iddynt ddatblygu yn eu gyrfa.
Beth yw hanes eich perthynas gydag Eugene Onegin fel opera – cariad ar unwaith ynteu tyfu dros amser?
Cariad ar unwaith bob amser! Er bod y tro cyntaf imi ei chyfarwyddo’n ddychrynllyd – fel bob profiad o ymdrin ag un o olygfeydd mwyaf y repertoire. Yn Onegin, yr olygfa honno oedd golygfa Llythyr Tatyana – tour de force i’r gantores a gall yr ymarfer fod yn brofiad unig iawn pan mai dim ond chi, y soprano a phensel a phapur sy’n bresennol. Yr hyn sy’n ei gwneud rhywfaint yn haws yw cael yr arweinydd a’r staff cerdd y tu ôl i chi yn cyflwyno un o’r golygfeydd harddaf a ysgrifennwyd erioed.
Mae Tchaikovsky’n taro’r hoelen ar ei phen gyda thempo dramatig yr olygfa hon felly dydych chi byth yn teimlo eich bod yn ceisio gwneud iawn am damaid o ysgrifennu sâl neu far neu ddau sydd wedi mynd o chwith. Mae’r olygfa yn waith athrylith.
—
Mae OCC yn teithio gydag Eugene Onegin yn y gwanwyn – tocynnau ar gael nawr, mwy o wybodaeth yma.