Wrth i ni nesu tuag at noson agoriadol ein taith o Eugene Onegin Tchaikovsky, buom yn holi cyfarwyddwr creadigol OCC Richard Studer ynglŷn â’i berthynas gyda’r darn anghyffredin hwn; ystyrir yn aml mai hi oedd opera orau Tchaikovsky, nid yn unig oherwydd y sgôr hudol a hypnotig ond am ei bod yn ddramateiddiad byw, empathig a pherthnasol o nofel fydr Pushkin.
Fel sawl un, cyrhaeddais at Onegin hyd lwybr anuniongyrchol. Nid gor-ddweud fyddai cyfaddef ei fod wedi cychwyn gyda hysbyseb siocled Cadburys (Everyone’s a fruit and nutcase). Roedd yr hysbyseb hyfryd o ynfyd yma (gyda’r felodi fythgofiadwy) a ganwyd gan Frank Muir yn anodd ei osgoi yng nghanol y 70au.
Am flynyddoedd lawer roedd cerddoriaeth Tchaikovsky’n cael ei chwythu i’n hystafelloedd byw a chreodd argraff ar ffliwtydd ifanc a oedd yn eiddgar i ddysgu’r rhan yma o’r Nutcracker. Roedd cerddoriaeth fale Tchaikovsky (mewn fersiynau wedi eu symleiddio) yn codi’n rheolaidd mewn arholiadau cerddoriaeth wrth i filoedd dirifedi o rai ifanc fel fi frwydro ein ffordd drwy’r delynegiaeth. Yn ddiweddarach, wrth astudio Lefel A mewn cerddoriaeth, cefais gyfnod o ddreifio rownd y dref yn fy 2CV coch a gwyn streipiog gyda’r to i lawr a’r Bumed Symffoni yn ffrwydro o’r chwaraewr tapiau oedd wedi ei nythu ar sedd y teithiwr ger y ci. Rhodresgar? Moi?
Mewn byr eiriau, pan glywais i’r opera am y tro cyntaf, roeddwn yn teimlo fy mod wedi adnabod y gerddoriaeth erioed. Cysylltais â’r darn yn syth ac er na wnes i ddeall yn iawn hyd y dydd hwn pan fod yna drac trên yn croesi’r llwyfan yng ngolygfa’r parti yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru yn yr Hippodrome ym Mryste (fy mherfformiad byw cyntaf), roeddwn i wedi fy syfrdanu. Erbyn hyn roeddwn i yn fy ugeiniau cynnar, yr un oed â myfyrwyr ysgol gerdd Moscow a oedd yn cyflwyno’r darn yn Theatr y Maly.
Arweiniodd colli cyfle i gyfarwyddo ‘Queen of Spades’ Tchaikovsky at gynhyrchiad o Onegin ym Mryste – un o’r operâu cyntaf a gynhyrchais y tu allan i ddiogelwch y brifysgol.
Mae’r cynhyrchiad gwreiddiol hwn wedi aros gyda mi drwy bob perfformiad ers hynny ac yng nghynhyrchiad newydd OCC mae ambell elfen o’r cyfarwyddo a erys o’r sioe wreiddiol hon, ond mae agweddau eraill wedi newid y tu hwnt i bob adnabyddiaeth.
Fel Onegin ei hun yn yr olygfa agoriadol, lluchiais fy hun i’r cynhyrchiad cyntaf hwnnw gyda sicrwydd a haerllugrwydd ieuenctid – mae hyn yn gweithio’n iawn i raddau ond roedd yn golygu fy mod wedi ffwndro wrth i’r opera fynd yn ei blaen. Anogir awduron gan eu mentoriaid i ysgrifennu’r hyn y maent yn ei adnabod cyn dim – cyngor da ac yr un mor wir gyda chyfarwyddo. Cefais fy hun yn cael trafferth gyda’r golygfeydd olaf, doeddwn i fy hun ddim eto wedi cael profiad o ansicrwydd y cariad na digalondid y gwrthodiad a’r golled a grëwyd gan Pushkin ac a gyfansoddwyd gan Tchaikovsky.
Y cynhyrchiad hwn i OCC fydd fy mhedwerydd o’r gwaith ac rydw i’n ei chael yn haws cysylltu â’r opera a’i chymeriadau bob tro ac rydw i’n siŵr y bydd yn parhau i fod yn opera sy’n datblygu gyda mi wrth imi fynd yn hŷn – efallai, yn fy henaint, y byddaf yn cyfarwyddo’r opera o safbwynt nyrs oedrannus Tatyana, Fillipyevna, cymeriad sydd wedi gweld y cyfan, ac ar y pwynt hwnnw fe fydda i’n gwybod fy mod wedi gorffen gyda’r darn.
Wrth wraidd Onegin mae dwy siwrnai wych: siwrnai Tatyana, lle gwelwn ni hi’n datblygu ac yn symud ymlaen o gariad delfrydol a rhamantaidd y golygfeydd agoriadol i dderbyn ei bywyd fel y mae ac fel y bydd. Dysga Tatyana nad yw’n bosib ailgynnau tân ieuenctid, mae’r foment wedi pasio a does dim troi’n ôl, ac felly yn y pen draw mae hi’n gwrthod cariad Onegin yn yr olygfa derfynol.
Mae siwrnai Onegin yn fwy dramatig mewn sawl ffordd: llanc anaeddfed wedi diflasu ar sefyllfa anodd ei ewythr sydd ar farw, ei ysmaldod yn gwrthod y ferch ddiniwed o’r wlad, haerllugrwydd ei ymddygiad a arweiniodd at farwolaeth ei ffrind gorau; a’r sylweddoliad terfynol ei fod wedi colli’r cyfan yr oedd yn ei ddymuno drwy ei weithredoedd. Ond yn wahanol i Tatyana, mae siwrnai Onegin yn ansicr. Mae Onegin, pan ddaw’r opera i ben, wedi ei ddal rhwng anaeddfedrwydd ei ieuenctid a’r oedolyn y gallai/dylai fod. Wrth i’r llenni gau, fe’n gadewir gyda dyn-blentyn sy’n sownd mewn ebargofiant tragwyddol drwy weithredoedd ei orffennol. Waeth pa oed y byddaf pan fyddaf yn cyfarwyddo’r darn hwn am y tro olaf, waeth pa siwrneiau sydd o’m blaen yn fy mywyd fy hun, rydw i’n sicr o un peth – nad oes un dim y gallaf ei wneud i helpu ein prif gymeriad. Ni fydd Onegin yn hapus fyth. Daw ei siwrnai i ben yn derfynol gyda chordiau olaf sgôr Tchaikovsky – efallai mai dyna oedd symbolaeth gynhenid y set anarferol yng nghynhyrchiad Opera Cenedlaethol Cymru flynyddoedd yn ôl yn Hippodrome Bryste.
Gweler yr holl ddyddiadau ar gyfer Taith y gwanwyn o Eugene Onegin