Os nad ydych chi wedi gweld opera erioed – ond ffansi mentro – yna mae hanes y Ffliwt Hud yn lle gwych i gychwyn!
Mae’n cynnwys popeth sydd ei angen ar gyfer noson allan i’w chofio:-
- Tywysog golygus – oes
- Tywysoges hardd mewn perygl – oes
- Y gelyn gwaethaf a fu – yn bendant
- Treialon a phrofion er mwyn ennill cariad
- Cymeriadau gwirioneddol ddoniol i ychwanegu hiwmor
- A wnawn ni ddim difetha’r stori… ond gobeithio y bydd pawb yn byw’n hapus am dragwyddoldeb.
Ar ben hynny mae’n addas i bob aelod o’r teulu. Rydym ni wedi rhoi canllaw oedran o 7+ oed ar y cynhyrchiad newydd ond dim ond am ei bod yn sioe eithaf hir ac y gallai sylw’r plant llai grwydro.
Felly beth allwch chi ei ddisgwyl?
Wel yn un peth mae’n bosib iawn y byddwch chi’n adnabod rhywfaint o’r gerddoriaeth. Ewch i wrando ar y soprano anhygoel yn aria Brenhines y Nos :-
neu’r ddeuawd hyfryd gan Papageno/Papageno
A’r peth gwych am gynyrchiadau Opera Canolbarth Cymry yw eu bod yn cael eu canu yn y Saesneg – felly dim Almaeneg, dim problem, fe fyddwch yn deall pob llinell.
Yr ail beth mae angen ichi ei wybod yw ei fod y peth agosaf at bantomeim ym mhob ffordd ond ei enw – ond plîs peidiwch â gweiddi bŵ! Mae fersiwn wedi ei hanimeiddio wedi ei chreu gan y BBC ac Opera Genedlaethol Cymru
os byddai’n well gennych chi wybod y stori lawn cyn mynd neu os hoffech ei wylio gyda’r plant – gan gynnwys y sarff fawr las. Cofiwch y gallai hynny ddifetha’r sypreis!
Byddwch ddewr a rhowch gyfle i opera! Rydym ni’n teithio ledled Cymru yn ystod y Gwanwyn a chewch weld y sioe yn Theatr Hafren, y Drenewydd ar Chwefror 17th, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar Fawrth 7fed, Canolfan Gelfyddydau Pontardawe ar Fawrth 9fed, Pontio ym Mangor ar Ebrill 26ain ac mae’r sioe yn gorffen yn y Riverfront yn yng Nghasnewydd ar Fai 4ydd.