Mid Wales Opera are back on tour this spring with Bernstein's exquisite dissection of the great American Dream
Mid Wales Opera are back on tour this spring with Bernstein's exquisite dissection of the great American Dream
Hoffem ddiolch yn fawr iawn i’n cyllidwyr a’n cefnogwyr diweddaraf am eu cefnogaeth, ac mae hyn i gyd yn golygu, er na fu’n bosib inni ddod â thaith PrifLwyfannau i Gymru a’r Gororau ar ddechrau’r flwyddyn fel yn y blynyddoedd blaenorol, rydym yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn ôl yn yr Hydref gyda Thaith LlwyfannauLlai newydd…
Mae Opera Canolbarth Cymru’n saernïo ac yn perfformio cynyrchiadau cyflawn a chartrefol mewn lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweld gwerth anferthol i opera ac yn mynd â chynyrchiadau sy’n ysbrydoli i theatrau a mannau lle mae’r cyfle i weld opera fyw yn brin a lle gellir cyrraedd at gynulleidfaoedd newydd. Rydym yn ymroddedig i feithrin, herio ac annog talent ifanc a ffres, gydag o leiaf 50% o gantorion y cwmni o dan 30 oed neu wedi gorffen eu haddysg o fewn y 4 mlynedd ddiwethaf.
Diolch i’r llif o gefnogaeth – ac arian! – gan ein cyfeillion a’n cefnogwyr, a gan selogion opera dros y wlad – a grant pwysig ofnadwy gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Cyngor Sir Powys, rydym ni bellach wrthi’n datblygu ein cynlluniau artistig ar gyfer y ddwy flynedd nesaf.